Agorodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Mai 2000 – sy’n golygu mai hi yw’r ardd fotaneg genedlaethol gyntaf i gael ei chreu yn y mileniwm newydd. Mae ystod drawiadol o erddi â themâu sy’n apelio at bob math o ymwelwyr, o’r rhai sy’n gwirioni ar edrych ar flodau a’u harogli i’r rhai sydd eisiau gwybod am blanhigion meddyginiaethol neu’r ymchwil DNA ddiweddaraf i esblygiad planhigion.
Yn y fideo hwn rwy’n mynd ar daith o amgylch yr ardd gyda Steffan John i ddysgu mwy am eu gwaith cadwraethol pwysig. Dyma eitem a darlledwyd ar raglen Prynhawn Da, S4C: