
Mae bron iawn yn dymor ‘fale
Mae’r Pig Aderyn ifanc hwn wedi dod ag efad o ffrwythau eleni. Afal sy’n hanu yn wreiddiol o Landudoch yw hwn a chyn hyned ag oes y Normaniaid! Mae pob un wedi’i cymryd yn doriadau gwreiddiol o’r abaty yn Llandudoch a bellach yn cael eu meithrin ledled Cymru Mae’n afal gwych sydd â defnydd amrywiol tu hwnt! O’i gynaeafu nawr, yn gynnar, mae’n creu seidr â blas dwys a melys, o’i adael a chynaeafu ym mis Medi, mae’n dda iawn wrth goginio ond wrth ei adael sbo cenol Hydref i aeddfedu’n llawn, mae’n afal bwyta rhagorol fydd yn storio am hyd at 5 mis!
Plannwch golfenni ‘fale cynhenid Cymreig – mae nhw’n reit i wala!