Blodyn Rhiwbob

Mae’r planhigion rhiwbob wedi cychwyn blodeuo yn dilyn mis Ebrill anarferol o sych! Mae’r rhiwbob fel reol yn blodeuo pan fydd y planhigyn dan stres.

Diffyg dŵr neu fwyd fel reol yw’r rhesymau pennaf, felly cofiwch ddyfrio’r rhiwbob yn ystod cyfnodau sych. Rwy’n rhoi tomen o dail ffowls sydd wedi pydru’n dda ar y clwmp bob gaeaf hefyd.

Os oes gennych glwmp riwbob sydd sawl blwyddyn oed sy’n blodeuo, mae’n bosib bod angen i chi rhannu’r clwmp yn ystod y gaeaf. Bydd hyn fel gwasgu’r botwm ‘reset’ i’r planhigyn a bydd yn helpu i greu mwy o dyfiant yn y dyfodol. Bydd hefyd yn lleihau faint fydd y rhiwbob yn blodeuo.

Nid oes unrhyw niwed i’r planhigyn wrth adael i’ch blodyn riwbob dyfu, ond cofiwch fod egni’r planhigyn nawr i gyd yn mynd tuag at wneud blodyn a thyfu hadau ac felly’n lleihau’r cnwd yn sylweddol ar gyfer y tymor tyfu eleni.

Bydda i’n torri’r blodau er mwyn sicrhau’r cnwd gorau o goesau rhiwbob ffres!