Briallu

Mae Briallu yn flodau bach prydferth!

Primula yw eu henw Lladin, genws sy’n cynnwys pob math o blanhigion hybrid fel Briallen Fair a Polyanthus hefyd.

Mae nhw’n blanhigion hyfryd, hawdd i’w tyfu ac yn blodeuo dros gyfnod hir iawn yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn, yn aml pan na fydd blodau eraill i’w gweld.

Oeddech chi’n gwybod bod modd bwyta’r blodau? Gallwch ddefnyddio’r blodau i addurno teisennau!

Mae nhw’n tyfu’n dda mewn pridd llaith sy’n dreinio ac yn hapus yn tyfu mewn mannau cysgodol hefyd. Un tip pwysig, bob rhyw ddwy neu dair blynedd, codwch y planhigion gyda phal a’u hollti a rhannu i greu planhigion newydd. Bydd hyn yn helpu’r planhigion i flodeuo yn well ac yn creu planhigion newydd i’w plannu neu rannu gyda’r cymdogion.