Mae’r brocoli romanesco yn barod i’w gynaeafu Dyma fy ail flwyddyn yn eu tyfu erbyn hyn ac mae nhw wedi tyfu tipyn yn well eleni na’r llynedd .
Y tri pheth pwysicaf rwy’ wedi dysgu wrth eu tyfu ydy:
1) Mae nhw’n blanhigion llwglyd iawn – rwy’ wedi plannu rhain yn syth i’r pridd gyda thail ffowls ffres heb ei bydru ac yn hytrach na llosgi fel planhigion eraill mae nhw ar ben eu digon gyda’r nitrogen i gyd!
2) Mae angen tipyn o le arnyn nhw i dyfu! Rwy’ dal wedi plannu rhain yn rhy agos o lawer. Gadewch ryw fwlch o 50cm o leiaf rhwng pob un!
3) Nid yw lindys ‘Gwyn y Bresych’ yn hoffi eu dail gymaint â phlanhigion bresych eraill ac felly mae nhw’n dueddol o gael mwy o lonydd
Rwy’n edrych ymlaen at goginio hwn nawr