Mae tocio planhigion yn bwysig er mwyn sicrhau tyfiant ffynnianus a chryf planhigion, sicrhau bod y planhigyn yn blodeuo’n gyson ac yn iach. Yn y fideo hwn rwy’n rhannu fy nghyngor tocio gan gynnwys sut i fynd ati i docio llwynni ffrwythau meddal fel cyrens duon a rhosod ymhlith planhigion eraill. Ffilmiwyd y fideo hwn yn ystod yr Hydref, sef cychwyn y cyfnod gorau ar gyfer tocio’r rhan fwyaf o blanhigion, cyfnod sy’n parhau tan gychwyn y gwanwyn. Mae’r fideo yn trin a thrafod:
- Pam tocio?
- Beth sydd ei angen arnom i docio?
- Sut i fynd ati i docio?
Os hoffech chi wylio mwy o gynnwys fel hwn, cofiwch ymweld â’n Sianel Youtube.