
Cêl ‘Nero di Toscana’ yn tyfu’n hapus braf yn yr ardd. Erbyn hyn dwi ddim yn gorchuddio’r planhigion bresych dan rwydi i atal lindys ‘Gwyn y bresych’ rhag eu bwyta. Rwy’n plannu digon o blanhigion Miri Mari o’u hamgylch ac mae hynny i weld yn gweithio’n arbennig o dda . Mae llawer gwell gan y Pili-Pala gwyn i ddodwy eu hwyau ar ddail Miri Mari na phlanhigion bresych eraill
Os ydych chi’n sylwi bod lindys bach yn bwyta’r dail gallwch chi wastad chwistrellu cymysgedd organig ar y dail wedi ei wneud o gynhwysion sydd mwy na thebyg ‘da chi yn y gegin. Rwy’n cymysgu 500ml o ddŵr gyda un llwy ford o bupur cayenne, 1 llwy ford o bowdwr garlleg ac un llwy ford o olew llysiau ac yn chwistrellu hynny ar y dail bob 10 diwrnod ac mae’n atal pob math o lindys a malwod rhag bwyta’r dail.
Y peth gorau amdano yw ei fod yn defnyddio cynhwysion naturiol a dim cemegion gwenwynig