Cinabêns

Mae wedi bod yn dymor o ddau hanner i’r ffa dringo eleni. Yr hanner cyntaf â sychder a gwres mawr Mehefin a Gorffennaf wedi arafu’r planhigion yn sylweddol a dod â chnydau cynnar o ffa bach oedd yn ymdebygu’n fwy i gryman na choes hir unionsyth!

A’r ail hanner? Wel o fis Awst ymlaen, cael a chael wrth i’r cawodydd (prin) o law gynnig rhyw gyfle o’r newydd iddynt! Erbyn hyn mae’r cnydau’n dod yn drwm a’r planhigion yn dal i flodeuo a chreu ffa newydd. Ond… peidiwch â chael eich twyllo gan wlith mis Medi! Mae’r ddaear dal yn sych gremp, felly dyfrwch a chynaeafwch bob cyfle gewch!