Mae compostio yn broses naturiol a rhad sy’n trawsnewid gwastraff eich cegin a gardd yn fwyd llawn maetholion i’ch gardd – ac mae mor hawdd ei wneud a’i defnyddio! Mae biochar yn ffurf pur o garbon sy’n helpu’r broses gompostio, yn ogystal ag atal nwyon niweidiol rhag cael eu rhyddhau ac felly yn helpu amddiffyn ein hamgylchedd.
Yn y fideo hwn, rwy’n dangos i chi sut i greu compost gartref gan gynnwys y gwahanol ddeunyddiau y gellir eu defnyddio, sut i reoli’ch bin neu domen compost yn ogystal â thrafod y manteision o ychwanegu biochar.
Am fwy o wybodaeth am brosiect Tyfu’r Dyfodol, ewch i: https://garddfotaneg.cymru/science/gr…