Cwrs Cymraeg yn yr Ardd Fotaneg

Dyma griw hyfryd y cwrs cyfaill-blannu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol heddiw.

Cwrs Cymraeg oedd hwn ac roedd 6 o’r aelodau yn siaradwyr Cymraeg newydd sydd wedi dysgu yn ystod y cyfnod clo ond heb gyfleoedd i ymarfer eu Cymraeg wyneb yn wyneb. Fe gwrddais â nhw bythefnos yn ôl ar gwrs ‘Dysgu Cymraeg yn yr ardd’ a dyna phryd ofynnais iddynt osod her personol ac ystyried dod i gwrs cyfrwng Cymraeg i ymarfer eu Cymraeg a dyna wnaethon nhw bob un 🤩

Rwy’ wedi fy nghalonogi yn llwyr yn eu hymdrech! Mae pob un ohonynt yn siaradwyr newydd ac yn dod â gymaint o fywyd i’r Gymraeg 😃

Mae mor, mor bwysig ein bod ni’n creu gofod i’n hiaith fod yn brif iaith a chreu cyfleoedd i bobl arfer eu Cymraeg yn iaith fyw, naturiol. Rwy’ mor falch o’r criw heddiw 🤩

Cymru am byth 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿