Cymrwch ofal

Pan mae’r tywydd yn braf a heulog yn y gwanwyn, rwy’n ysu i fynd allan i blannu popeth yn yr ardd i greu lle yn y tŷ gwydr neu’r tŷ… Ond mae angen cymryd gofal!

Mae rhew dal yn bosib yma yng Nghymru yr adeg hon o’r flwyddyn a gall hynny fod yn ddigon i ladd planhigion tyner.

Dyma un o’r cyfnodau fwyaf anodd i reoli yn yr ardd ac mae angen derbyn bod yna elfen o ‘c’est la vie’ pan yn garddio ond mae na rhai pethau bach gallwn ni wneud i ddiogelu’n planhigion. Dyma rhai tips ar sut i’w diogelu:

1) Gorchuddio – rhowch gnu o ddeunydd dros y planhigion, cnu garddio yn ddelfrydol ond os nad oes peth gyda chi gallwch ddefnyddio hen ddillad gwely neu gardfwrdd. Codwch hwn yn y bore ar ôl iddo gynhesu. Gallwch hefyd roi bwced neu botiau dros blanhigion bach tynner.

2) Gwresogi – os oes gennych dŷ gwydr neu dwnel tyfu, gosodwch wresogydd bach neu gwely cynnes ynddo jyst i gadw’r rhew bant. Caewch ddrysau’r tŷ gwydr/twnel tyfu yn gynnar a pheidiwch a dyfrio gyda’r hwyr!

O ddilyn y camau hyn, gallwn ddiogelu’n planhigion bach pan mae dal siawns o rhew. Fel reol, bydd angen diogelu unrhyw beth sy’n cael eu hau ar ôl canol mis Ebrill a phlanhigion sydd angen fod yn y ty gwydr fel tomatos a chiwcymbr er enghraifft.