Cynaeafu Mafon

Y peth pwysig i gofio wrth dyfu mafon yw eich bod yn eu cynaeafu’n gyson. Mae’r ffrwythau yn aeddfedu’n sydyn a ddim yn para am sbel ar y brigau.

Dysgais y wers hynny drwy feddwl ‘fe wna i jyst gadael nhw am ddiwrnod bach arall’ dim ond i golli hanner ohonynt oedd wedi meddalu, llwydo a dechrau pydru.

Felly cofiwch eu cynaeafu bob dydd hyd yn oed os taw ond llond llaw sydd ‘da chi.

Gwasgwch y mafon yn ofalus ac mi ddylai’r ffrwythau ddod yn rhydd heb y coesyn gwyn arnyn nhw.

Bwytewch nhw’n ffres gyda brecwast neu eu rhewi tan fod digon gyda chi i wneud jam neu deisen gaws.