Cynffon y gath neu yn Lladin, Typha Latifolia.
Planhigyn perffaith i greu uchder wrth ymyl y pwll natur. Mae’n denu adar bach i glwydo arno a gwas y neidr i orffwys ar lafnau’r dail.
Mae gymaint o enwau gwych gennym yn Gymraeg am y planhigyn hwn, dyma rai ohonynt:
Tapr y Dŵr,
Penmelfed,
Ffon y Plant,
Hesgen Felfedog Fwyaf.
‘Cwt y gath’ oedd enw fy nhad-cu arnyn nhw.
Rwy’n dwlu gweld sut mae’r rhew yn dadleth ar yr ochr ddwyreiniol wrth i’r haul wawrio wrth i’r ochr orllewinol aros wedi rhewi’n gorn. Rwy’n dwlu ar natur Cymru a’n hanes hir o ddefnyddio natur i ddisgrifio ein bodolaeth, diwylliant a’n ffordd o fyw, “Darn o dir yn dyst ein bod wedi mynnu byw“.