Cynlluniau’r ardd eleni

Rwy’ ffaelu aros i lenwi pob gwely, pob potyn a phob cornel o’r ardd llawn llysiau a blodau unwaith eto 😀

Mae tipyn o newid yn dod i’r ardd eleni, rydym yn bwriadu symud yr ieir i’r berllan a chodi twnel tyfu newydd 3m x 10m yn lle yr un sydd gyda ni nawr (byddwn ni’n cadw’r un bach ond ei symud i ran arall o’r ardd). Bydd tš gwydr arall (wedi’i ailgylchu) yn ymuno â’r ddau hyn i greu rhes o dri – un i domatos, un i bupur a tsili ac un i giwcymberau o bob math.

Rydym hefyd yn bwriadu plannu perllan newydd o goed ffrwythau cynhenid (Eirin Dinbych, Afal Enlli, Brenin yr Wyddfa, Marged Nicolas) a dôl blodau gwyllt oddi tanynt. Hefyd, byddwn yn sefydlu gardd flodau torri a borderi planhigion a blodau lluosflwydd yn ogystal â chynyddu nifer y cychod gwenyn i 10 gobeithio 🐝

Mae’n saff dweud byddwn ni’n ddigon bishi yn yr ardd eleni ond wi wir ffilu aros i glatsho mlaen â’r cynlluniau cyffrous 😀