
Dant y llew yw’r planhigion a blodau gwyllt sy’n cael eu tanwerthfawrogi fwyaf.
Arferai fy nhad-cu frwydro yn erbyn rhain yn yr ardd bob blwyddyn ac rwy’n cofio bod ofn cyffwrdd mewn un rhag ofn imi wlychu’r gwely!
Mae ein canfyddiadau ohonynt wastad wedi bod yn negyddol. Rhyw chwyn ymledol sy’n creu llond y lle o broblemau i ni, dyna ddysgais i yn blentyn! Ond gydag amser, rwy’ wedi dod i werthfawrogi ac edmygu’r planhigyn hwn yn fawr.
Mae’r taraxacum officinale (dant y llew) yn perthyn i deulu’r Asteraceae sef yr un teulu â llygad y dydd a blodau haul.
Mae nhw’n blanhigion maethlon iawn ac mae modd bwyta popeth; y dail, gwreiddiau a’r blodau. Mae’r dail llawn fitamin A, C a K ac mae’r blodau yn creu’r surob a’r marmalêd fwyaf blasus!
Yn bwysicach na hynny mae nhw’n ffynhonnell arbennig o dda o neithdar ar gyfer gwenyn yn gynnar yn y tymor ac yn dda wrth ddenu peillwyr i’r ardd i beillio’r cnydau. Felly peidiwch fynd ati o fwriad i’w torri a chodi yn enwedig yr ochr hon i fis Mehefin. Mae nhw’n hen gyfaill ffyddlon i’r garddwr ac fe ddylwn ni gyd eu gwerthfawrogi a’u parchu