Shwmae bawb, mae‘n ddechrau mis Gorffennaf a’r ardd yn rhoi cnydau o bob math. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cynaeafu’r winwns, cyrens coch a chyrens du, gwsberis, mefus a mafon i enwi ond rhai. Mae wedi bod yn dymor da iawn i’r ffrwythau meddal eleni.
Mae tyfu ein bwyd ein hun gartref a cheisio byw bywyd hunangynhaliol yn bwysig iawn i ni. Does dim dwywaith bod cryn dipyn o waith paratoi’r cnydau ar ôl eu medi, yn enwedig y gwsberis….treuliais achau yn torri’r cwt a’r pen oddi arnynt…am jobyn diddiolch.
Gan gofio ein bod yn medi ffrwyth ein llafur fel petai, mae’n bwysig gwybod sut i gadw’r cnydau hyn am y misoedd sydd i ddod,. Dyma rannu ychydig o gyngor syml o ran storio a pharatoi bwyd o’r ardd.
Sychu a Storio Winwns
Pan yn cynaeafu winwns, mae’n bwysig ceisio gwneud hyn yn gynnar yn y bore, a’u gadael am ddiwrnod neu ddau (os yw’r tywydd yn caniatáu) i sychu ar dalcen y pridd. Mae gymaint o ddaioni wrth eu sychu yn naturiol dan wres yr haul. Rwyf wedyn yn eu rhoi i sychu’n fwy yn y tŷ gwydr neu o flaen ffenest sied am o leiaf mis. Byddaf wedyn yn sychu’r pridd oddi ar groen y winwns cyn eu plethu/storio am y gaeaf. Cofiwch, os oes unrhyw farciau arnynt neu dolciau, i’w bwyta yn syth, gan na fyddan nhw’n cadw’n dda dros y gaeaf. O wneud hyn i gyd, bydd eich winwns yn cadw tan o leiaf mis Ebrill flwyddyn nesaf.
Cyrens, gwsberis a mefus
Mae gymaint gallwch chi ei wneud gyda ffrwythau meddal i’w cadw am fisoedd lawer. Jam yw’r ffefryn yn ein tŷ ni, ac mae jam cartref mor rwydd i’w wneud, yn enwedig gyda chyrens. Fel rheol i greu jam cartref, mae angen yn yr un pwysau o ffrwythau, siwgr a dŵr arnoch, ei ferwi ynghyd nes ei fod yn cyrraedd cyflwr setio. Rhaid cofio nad oes gan fefus na gwsberis ddigon o bectin yn naturiol, ac felly mae angen ychwanegu pectin wrth greu’r jam. Gallwch brynu pecin ar ffurf ‘siwgr Jam, neu hylif pectin’ yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd.
Gallwch chi hefyd rewi’r ffrwythau i’w bwyta yn hwyrach yn y flwyddyn gyda’ch brecwast neu mewn pastai/crymbl cartref, pwdin perffaith ar ôl cinio dydd Sul blasus.
Mae creu gwin a jin gyda’r ffrwythau hefyd yn opsiwn da, ond dewch yn ôl wythnos nesaf i ddysgu mwy am hynny!
Os hoffech chi fwy o gyngor garddio a chlywed mwy am fy mywyd yn yr ardd, dilynwch @adamynyrardd ar Instagram, Twitter neu Facebook.