Mae’n deimlad hollol arbennig gweld fy llyfr ‘Dere i dyfu gyda Dewi Draenog a Beca Broga’ yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ym mhob rhan o Gymru
Ddoe cefais brofiad twymgalon go iawn yn rhannu’r cymeriadau bach a darllen rhan o’r llyfr â dros 100 o blant yr ysgol feithrin a dosbarth derbyn Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli
Ar ôl darllen rhan o bennod 1 aethom ati i ddilyn cyngor Dewi Draenog a phlannu blodau haul a joio canu pob math o ganeuon am dyfu blodau yn yr ardd
Rwy’n dwlu ar bob cyfle arbennig fel hyn Cofiwch allwch chi dal brynu eich copi chi mewn siopau Cymraeg lleol ac ar Etsy adam yn yr ardd!
