Dere i Dyfu – Llyfr Garddio i Blant

Dere i Dyfu gyda Dewi Draenog a Beca Broga 😀

Dyma fy llyfr garddio i blant cyntaf a rwy’ ffaelu aros i chi ei weld e 😁

Mae llawer o greaduriaid yn byw yn yr ardd. Mae pob un yn bwysig i deulu byd natur. Mae Dewi Draenog a Beca Broga yn byw’n hapus yn yr ardd. Mae Dewi Draenog yn arddwr gwych ac mae e wrth ei fodd yn tyfu blodau, llysiau a ffrwythau. Mae Beca Broga eisiau bod yn arddwr gwych hefyd. Wyt ti? Dere i arddio

Mae’r llyfr yn rhannu gwybodaeth am sut i fynd ati i dyfu hadau, blodau, ffrwythau a llysiau yn ogystal â garddio mewn modd sy’n gofalu am fyd natur. Mae Dewi Draenog yn hen law yn yr ardd ond mae Beca Broga yn ysu i ddysgu mwy.

Mae modd prynu copïau yn eich siopau Cymraeg lleol neu yn uniongyrchol wrthym ni trwy anfon e-bost at cyswllt@adamynyrardd.cymru neu ymweld â’n siop Etsy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y llyfr neu hoffech drafod ymweliad ysgol / gweithdy garddio gyda grŵp cymunedol, cysylltwch â ni: cyswllt@adamynyrardd.cymru.

Diolch o galon Y Lolfa am bob cefnogaeth ac am roi cyfle arbennig imi wireddu breuddwyd o gael ysgrifennu a chyhoeddi cynnwys garddio yn Gymraeg. Diolch hefyd i’r artist gwych Ali Lodge am y lluniau lliwgar hyfryd ac i Tanwen Haf am ddylunio’r cyfan.

Mae’r fideo hwn yn un dwyieithog sy’n sôn am y llyfr yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda’r Gymraeg i’w chlywed yn gyntaf. Ceir gwybodaeth debyg yn Saesneg yn dilyn y Gymraeg ond nid ydynt yn gyfieithiadau uniongyrchol (00:00 Cymraeg/Welsh version, 03:48 Llyfr/Book, 04:03 Saesneg/English version).