Gychwyn fis Ionawr 2021 bues i’n ddigon ffodus i dderbyn neges gan Human’s Who Grow Food gyda chyfle arbennig i rannu fy hanes garddio ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae Human’s Who Grow Food yn rhannu hanes garddwyr o bob cwr o’r byd. Maent newydd lansio gwefan newydd ac os oes pum munud gyda chi, ewch i’w darllen.
Dyma flog ysgrifennais nôl ym mis Ionawr ar gyfer cymuned garddwyr Human’s Who Grow Food.

“Rwy’n gymro balch sy’n 27 oed ac yn angerddol dros dyfu bwyd mewn modd gynaliadwy sy’n cyfoethogi bioamrywiaeth ein gardd ac sydd yn ei dro yn cynyddu pa mor gynhyrchiol yw’r tir o’n cwmpas. Rwy’n garddio’n organig gan ddilyn egwyddorion paramaethu ac rwy’ hefyd yn defnyddio’r system dim palu.
Roedd fy nhad-cu yn ysbrydoliaeth anferth imi. Mae’n rhaid imi gyfaddef na wnes i erioed ddewis garddio fel hobi, neu benderfynu rhyw ddiwrnod y byddwn i’n hoffi dysgu sut i arddio, roedd fel petai’r ardd wedi fy newis i mewn ffordd. Roeddwn mor ffodus cael fy magu yn chwarae o dan ganopi anferth dail rhiwbob gardd fy nhad-cu ac roeddwn yn aml yn dwgyd ei fefus ac afans heb iddo sylwi. Roedd cenedlaeth fy nhad-cu yn tyfu eu bwyd eu hunain achos dyna oedd rhaid yn dilyn dinistr yr ail ryfel byd. Yn ffodus iawn, fe’m magwyd ar yr un stryd a’m mam-gu a’n nhad-cu ac roedd y cymdogion i gyd hefyd yn arddwyr brwd. Cefais brentisiaeth arddio heb ei hail o’r dechrau’n deg. Wedi’r cyfan, dyna sut mae ennyn gwybodaeth a deallusrwydd garddio, wrth ei rhannu gyda’r gymuned arbennig o bobl sy’n garddio a’r gymdeithas arbennig sy’n deillio oddi wrthi.
Rwy’n tyfu llysiau a ffrwythau ein hunain am ei fod yn rhoi boddhad anferth i mi ac mae’n caniatáu i ni fel teulu fyw bywyd sydd mor hunangynhaliol ag sy’n bosib tra’n cefnogi’r amgylchfyd ar yr un pryd. Rydym wedi dysgu gymaint dros y blynyddoedd diwethaf o ran sut i storio a chadw bwyd yn ogystal â dod i ben gyda’r hyn sydd gyda ni yn tyfu yn yr ardd yn hytrach na dibynnu ar lysiau o’r archfarchnad er enghraifft.
Rwy’n byw yng ngorllewin Cymru ac mae ein gardd ychydig yn llai na hanner erw o dir. Ry’n ni wedi ceisio gwasgu gymaint ag sy’n ymarferol bosib i mewn i’n gardd ac ry’n ni wedi codi dros 20 gwely llysiau, nifer fawr o botiau, 2 dŷ gwydr a thwnnel tyfu er mwyn tyfu cyn gymaint o fwyd ag sy’n bosib. Ochr yn ochr â hyn rydym wedi creu ardaloedd mawr o’r ardd yn ardaloedd natur gwyllt (gwaun blodau gwyllt, pwll natur, perth naturiol) er mwyn creu coridor i fyd natur ac annog creaduriaid sy’n llesol i’r ardd i mewn i’n helpu garddio.

Rydym yn tyfu peth wmbredd o lysiau, ffrwythau a blodau. Pob math o lysiau sy’n perthyn i deulu’r bresych, moron, tatws, artisiog, saladau, ffa, tomatos, pupur a heb anghofio cennin wrth gwrs. Rydym newydd blannu perllan newydd ym mhen uchaf yr ardd ac wedi codi cawell ffrwythau hefyd i ddiogelu’r cyrens duon/cochion, gwsberins, mefus ac afans. Mae’r gwelyau llysiau hefyd yn llawn dop â blodau o bob math gan ein bod yn cyfaill-blannu gyda phlanhigion a blodau sy’n llesol i’w gilydd. Mae hyn yn atal ymosodiadau gan bryfed a chreaduriaid yn ogystal â denu peillwyr o bob math i fewn i’r ardd; blodau fel Melyn Mair Ffrengig, y Wermod Wen, Liatris Spicata a’r Hyssop Enfawr.
Rydym yn garddio yn defnyddio’r dull neu’r system dim palu sy’n golygu nad ydym yn palu’r ardd na throi’r tir o gwbl, yn hytrach rydym yn gosod haenen o gompost ffres ar ben y pridd bob blwyddyn. Mae defnyddio’r system hwn yn ein galluogi i blannu mwy o gnydau oddi fewn i’r gwelyau a hynny yn ei dro yn golygu ein bod yn cynaeafu cryn dipyn yn fwy o fwyd mewn ardaloedd llai eu maint na’r hyn yr arferid yn draddodiadol. Rydym ond yn defnyddio compost di-fawn ac yn ceisio cynhyrchu cyn gymaint o gompost ag sy’n bosib ein hunain yn yr ardd.
Gan ein bod yn garddio mewn modd sy’n denu natur i mewn i’r ardd, mae’n rhaid cyfaddef nid yw rheoli plâu neu broblemau o ran gwlithod a malwod yn ormod o broblem fan hyn. Rwy’n credu’n gryf ein bod ni fel garddwyr ond yn un darn bach iawn o’r jigso yn yr ardd – natur yw’r grym go iawn bob tro.
Yn ei hanfod, sicrhau balans sy’n bwysig, mae angen derbyn weithiau y bydd rhai cnydau yn dioddef o achos difrod gan greaduriaid eraill ond os bydd gyda ni system eco iach yn ein gerddi, bach iawn o ddifrod bydd yn y bôn. Mae gan natur ffordd arbennig o ddod o hyd i’r balans – y peth gwaethaf y gallwn ni fyth wneud fel garddwyr ydy gwthio’r balans hynny i’r cyfeiriad anghywir. Rydym yn ymdrechu’n galed i wneud yn siŵr bod pob agwedd o’n garddio ni yn organig heb ddefnyddio plaladdwyr a ffrwythlonwyr cemegol.
Rwy’n cofio fy nhad-cu unwaith yn rhoi llond llaw o hadau cinabêns i mi a setiau sialots, rhai yr oedd ef ei hun wedi eu cadw ers blynyddoedd maith. Rwy’n cofio sylweddoli pa mor bwysig oedd cadw hadau newydd i’r tymor tyfu nesaf a phwysigrwydd wastad cynllunio ymlaen. Yn ergyd drom bu farw fy nhad-cu, yn ddyn ifanc iawn yn y bon, dim ond yn 67 mlwydd oed nôl yn 2006 pan oeddwn yn 13 oed. Byth y byddwn i’n meddwl y byddai’r hadau hynny yn dod mor bwysig imi heddiw. Rwy’n dal i hau’r un hadau a thyfu’r un disgynyddion o hadau cinabêns a setiau sialots bob blwyddyn ac mae’r cyslltiad hynny yn amhrisiadwy. Mae gwybod bod rhan o’m gorffennol a’m magwriaeth yn cael ei feithrin yn fy ngardd i heddiw yn gwneud imi deimlo balchder go iawn. Rwy’n ceisio cadw gymaint o hadau nôl bob blwyddyn ag sy’n bosib. Rwy’n aelod o’r Llyfrgell Hadau Treftadaeth ac yn ceisio prynu y rhan fwyaf o’r hadau rwy’n defnyddio gan gwmniau Cymreig. Mae’n rhaid imi gyfadded bod tueddiad drwg ‘da fi o adael i becynnau o hadau gwympo yn y troli pan fyddwn allan yn siopa.
Yr her fwyaf imi yn ddios yw amser. Fy mreuddwyd oes yw creu gyrfa sydd yn cylchdroi o amgylch garddio a chynhyrchu bwyd mewn modd gynhaliol. Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu ein cwmni cyfyngedig ein hunain gyda’r nod o rannu gwybodaeth am arddio, hyfforddi ac addysgu am gynhyrchu bwyd cynaliadwy – felly croesi bysedd un dydd y bydd modd inni gynyddu faint o amser rydym yn trelio yn yr ardd a throi hynny’n yrfa sy’n ein cynnal.
Yr hyn sy’n creu’r boddhad mwyaf i mi yn yr ardd yw gallu cynaeafu a choginio’r hyn rydym wedi llwyddo ei dyfu. Does dim blas gwell yn y byd na blas cynnyrch a dyfwyd yn yr ardd gartref, hyd yn oed os mai ond un daten yn unig rydych wedi llwyddo ei thyfu, mae’r ymdeimlad o gyflawni rhywbeth fel’ny yn ddiguro.
Rwy’n aelod o Garden Organic UK ac rwy’ hefyd yn cydweithio’n agos gyda phrosiect Tyfu’r Dyfodol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lle rwy’n creu adnoddau garddio addysgiadol dwyieithog sy’n annog pobl i wneud y mwyaf o’u gerddi a rhoi cynnig ar arddio. Rwy’ hefyd yn cyfrannu’n fisol ar (Y Sioe Frecwast) ar BBC Radio Cymru 2 ac yn ymddangos yn rheolaidd ar Prynhawn Da lle rwy’n rhannu cyngor a syniadau garddio. Rwy’ hefyd yn arwain sawl sesiwn garddio digidol dros Zoom i grwpiau cymunedol ledled Cymru.
Mae garddio yn un siwrnai gyffrous sydd llawn sbort. Mae’n bosib bydd ‘na ambell groesfordd a chamgymeriad ar hyd y daith ond y peth pwysicaf oll yw mwynhau’r ardd, ni waeth beth fo’i maint. Mae pob un ardd yn wahanol ac mae gennym ni gyd ein ffyrdd bach unigryw o arddio a dyna sy’n crisialu pam fod garddio yn ffordd wych o dreulio’n hamser. Does dim terfyn ar faint o wybodaeth allwn ni ddysgu yn yr ardd, mae wastad rhywbeth newydd i’w ddysgu.

Mae Humans Who Grow Food yn rhannu straeon garddwyr, ffermwyr a gerddi cymunedol ar draws ffinniau a diwylliannau.
Eu nod yw cysylltu gyda garddwyr o bob cwr o’r byd. Cysylltwch â nhw os hoffech chi rannu’ch stori chi: humanswhogrowfood@gmail.com neu fe allwch chi anfon neges atynt ar Facebook neu Instagram Instagram.com/humanswhogrowfood