Diogelu planhigion mewn modd natur-gyfeillgar

Mae pryfed yn gallu peri cryn dipyn o niwed i’n planhigion yn yr ardd os nad ydym yn cadw llygaid barcud arnynt. Yn y fideo hwn rwy’n rannu ychydig o gyngor ar sut i ddiogelu’n planhigion yn erbyn gwlithod, malwod a lindys ond mewn modd sydd yn gyfeillgar i natur.

Nid oes angen inni frwydro yn erbyn natur, rydym yn rhan o natur ac mae garddio mewn cytgord â natur yn sicrhau’r canlyniadau gorau.

Mae’r fideo hwn yn rhan o gyfres o fideos Prosiect Tyfu’r Dyfodol, gyda’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.