Mis Mai heulog a sych iawn ar y cyfan – does dim dwywaith bod ein tywydd yn newid yn sydyn yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae cyfnodau hir a sych yn dod fwyfwy cyffredin yn enwedig rhwng mis Mawrth a Mehefin, gwres tanbaid yn fwy aml ond hefyd pan fydd y glaw yn dod, mae’n ddwys iawn ac yn eithriadol o wlyb am gyfnodau – mae’r man canol yn dod yn fwy eithafol nag oedd cynt!
Mae hwn i gyd yn creu amodau tyfu newydd inni yn yr ardd ac yn golygu y bydd angen inni dderbyn bod cynllunio fesul tymor tyfu yn dod yn fwy heriol ac anwadal.Un peth na fydd byth yn newid wrth gwrs ydy ein parodrwydd ni i drafod y tywydd wrth arddio a chintachu amdano yn reolaidd Yn syml… Ma ishe bach o law nawr plîs