Mae gwybod sut i ddyfrio’n gywir yn un o’r sgiliau garddio pwysicaf ac mae sawl ffordd wahanol o wneud.
Un ffordd dda ydy gosod planhigion mewn treis sy’n dal dŵr fel welwch chi yn y llun.
Arllwyswch y dŵr i’r trei, digon fel bod pob potyn mewn cyswllt â’r dŵr. Mae’n bwysig peidio gorddyfrio hefyd ac un ffordd dda o wirio hyn ydy defnyddio’ch bys i fesur y lleithder.
Gwthiwch eich bys mewn i’r pridd ac os yw’n dychwelyd yn lân heb unrhyw ddarnau o bridd arno bydd angen dyfrio. Os fydd pridd tamp ar eich bys, mae’r planhigyn ddigon llaith ac nid oes angen dyfrio.
Mae dyfrio planhigion o’r gwaelod yn cadw’r gwreiddiau’n llaith, yn enwedig planhigion mwy sydd angen tipyn o ddŵr. Mae hefyd yn golygu nid ydym yn golchi’r mwynau o’r compost / pridd wrth ddyfrio ac yn arbed faint o ddŵr ddefnyddiwn yn yr ardd.
Mantais arall ydy gallu dyfrio unrhyw bryd yn ystod y dydd heb boeni am gryfder yr haul a denu gwlithod gyda’r hwyr!