Am flynyddoedd fues i’n pendroni beth oedd y gwahaniaeth rhwng swêds ac erfin a phu’n a oedd gwahaniaeth o gwbl.
Wel, mae nhw’n wahanol iawn ac yn debyg iawn!
Daw swêds yn wreiddiol o Sweden (dyna sioc mawr) ac yn draddodiadol erfin oedd yn cael eu bwyta yng Nghymru ac nid swêds ond fe newidiodd hynny yn sydyn yn y 18fed ganrif.
Mae erfin yn tyfu’n sydyn iawn ac yn barod ymhen rhyw 10 wythnos ond yn dipyn yn llai o faint na swêds. Mae’r gwreiddyn yn feddal ac yn wyn fel reol ac yn grwn fel pelen. Mae angen tir ffrwythlon iawn ar gyfer tyfu erfin.
Mae swêds yn tyfu’n arafach ond yn aros yn ffres am gyfnod hir ac yn fwy o faint nac erfin, siâp pêl hirgron yn hytrach na phelen gron. Fel arfer â chnawd melyn neu oren. Nid oes angen tir ffrwythlon iawn ar swêds i dyfu.
Felly beth yw’r gwahaniaeth go iawn?
Mae swêds yn gallu gwrthsefyll tywydd oer a rhewllyd ac felly yn cadw’n dda yn y tir yn ystod y gaeaf ond mae’r erfin yn hollti gyda rhew caled ac yn pwdru.
Dyna pham rydym erbyn hyn yn tyfu mwy o swêds yn hytrach nac erfin. Mae hynny’n wir am y rhan fwyaf o Ogledd Ewrop. Ar gyfandir deheuol Ewrop mae’n stori dra wahanol, lle mae’r erfinnen yn ffefryn o hyd.
Beth sydd well gyda chi, erfin neu swêds?