Mae’r ffa dringo (neu cinabens) mewn yn yr ardd!
Does dim syniad ‘da fi pa fath o ffa dringo yw’r rhain gan fy mod wedi cadw’r un hadau a ges i gan fy nhad-cu yn blentyn, dros 17 o flynyddoedd yn ôl. Roedd e’n cadw’r un hadau blwyddyn ar ôl blwyddyn hefyd, felly pwy a wyr beth yw rhain!
Un o’r pethau rwy’n mwynhau mwyaf am yr ardd yw faint mor anhygoel yw planhigion wrth iddynt allu ail-greu eu hunain a thyfu’n gryfach ac yn well blwyddyn ar ôl blwyddyn!
Rwy’n addo eleni y bydda i’n cadw hyd yn oed mwy o hadau o’r ardd. Mae’n rhan o geisio byw bywyd hunangynhaliol a lleihau dibyniaeth ar gwmnïau hadau mawr.