Fforio hydrefol

Mae digonedd o fwyd maethlon, rhad ac am ddim yn y perthi ar hyn o bryd: Cnau cyll, eirin tagu, mwyar duon, bochau cochion, afalau, eirin ysgaw a chriafol 🍒

Rwy’n rhewi y rhan fwyaf o’r cnydau hyn yn barod i’w defnyddio yn ystod y gaeaf pan fydd y nosweithiau yn dywyll ac yn fy atal rhag crwydro i’r ardd 🧑🏻‍🌾