Hapusrwydd yw llond ford o blanhigion yn barod i blannu yn yr ardd
Mae pobl yn aml yn meddwl mai ond diddordeb mewn tyfu llysiau sydd gyda fi, ond rwy’ wir wrth fy modd â phlanhigion a blodau o bob math hefyd. Rwy’n gyffrous dros ben i fod yn cychwyn ar y gwaith cynllunio a datblygu ardal arall o’r ardd fydd yn llawn planhigion amrywiol
Ar ôl gweld @adamfrostdesign yn ymweld â Cambridge University Botanic Garden ar raglen Gardeners’ World yn ddiweddar, cefais gymaint o ysbrydoliaeth yn gweld gardd y gaeaf sydd wedi sefydlu yno. Mae’n anhygoel yn for o liwiau llachar gan gynnwys blodau a boncyff coed amrywiol – bydd rhaid mynd yno am dro rhyw bryd, heb os! A dyma fi wedyn yn mynd ati i gynllunio ardal fach o’r ardd fan hyn i ddod ag ychydig o liw yn ystod adegau fwyaf tywyll a diflas y gaeaf
Diolch yn fawr iawn i Feithrinfa Farmyard am gynnig syniadau gwych ac am stocio’r planhigion i gyd oedd angen arnaf Rwy’n mynd i blannu:
- Daphne ‘Jacqueline Postill’
- Mahonia,
- Erica darleyensis,
- Hamamellis,
- Viburnum tinus,
- 2 fath o Cornus,
- Sarcococca,
- Hellebores,
- Pittosporum.
Mae nifer o’r planhigion hyn yn cynnig neithdar prin i’r gwenyn yn gynnar yn y tymor hefyd Byddaf yn ffilmio’r cyfan gyda chriw Prynhawn Da S4C wythnos nesaf ac yn rhannu ychydig o dipiau ar sut allwch chi greu border llawn lliw yn eich gardd chi ym mherfeddion y gaeaf . Rwy’ am ala gweddill fy niwrnod yn edmygu’r planhigion hyn
