
Mae hau hadau yn tanio gymaint o obaith! Rwy’n meddwl nôl i’r tro cyntaf imi blannu hadau, yn 3 blwydd oed a gweld y dail bach gwyrdd yn pipo drwy’r pridd a theimlo mor gyffrous fy mod i wedi dod â rhywbeth newydd i’r byd.
Rwy’n cofio synnu bod modd tyfu rhywbeth o ronyn bach caled a chreu planhigyn mor dyner a meddal ac yna gofalu amdano a gweld y cylch cyfan o’r cychwyn yn egino i’r blodeuo a’r diwedd hefyd wrth i’r gaeaf ddod.
Sbigoglys yw’r planhigyn hwn ac rwyf wedi ei blannu yn yr ardd yn barod i roi cnwd ffres o fwyd yn ystod y misoedd nesaf. Mae gymaint o obaith yn deillio o’r planhigyn bach hwn, mae’n codi fy hwyliau i hefyd.
Os ydych chi’n chwilio am ddihangfa o’r byd ar hyn o bryd, ymunwch â fi ac ewch ati i arddio. Rydym yn creu gobaith wrth roi ffydd yn yfory – a dyna yn ei hanfod yw garddio i mi.