Garddio yn yr Ysgol ym mis Medi

Mae’n fis Medi ac mae’r haf wedi dychwelyd wedi seibiant hir yn ystod mis Gorffennaf ac Awst – ac mae gwyliau’r ysgolion nawr ar ben… Typical! Ond rwy wedi llwyddo cychwyn ar y gwaith o dorri’r perthi 🧑🏻‍🌾 OND os ydych chi’n athro neu athrawes sy’n hiraethu am ddechrau’r haf ac yn rwystredig bod y tywydd nawr yn gwella, peidiwch – ewch â’ch dosbarthiadau mas o’r ystafell ddosbarth i’r ardd!

Mae mis Medi yn adeg berffaith i gychwyn gardd ysgol o’r newydd – digon o amser i hau saladau o bob math a buan iawn fydd hi’n amser plannu garlleg, winwns, llwyni ffrwythau a phob math o goed! Mae gymaint o wres ym mhridd yr hydref ei fod yn adeg berffaith i blannu planhigion newydd, symud planhigion, plannu bylbiau, hau hadau blodau gwyllt heb sĂ´n am gynaeafu a fforio yn y perthi am fwyd!

Mae garddio yn cynnig templed gwych i addysgu pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!O astudio gwyddoniaeth y pridd, terminoleg garddio i ddatblygu medrau iaith, cyfrifo dwyseddau plannu planhigion a meintioli cnydau, dathlu hanes a thraddodiadau tyfu bwyd, creu arddangosfeydd byw yn defnyddio blodau a’r cyfan yn yr awyr agored – i feithrin gwytnwch a chefnogi iechyd meddwl a chorfforol!

Rwy’n edrych ymlaen at rannu fy mhrofiadau yn datblygu gerddi ysgol a chefnogi’r cwricwlwm newydd i Gymru bore yfory yn niwrnod HMS Ysgol Gymraeg Cynwyd Sant! Os hoffech chi ymweliad ysgol neu hyfforddiant i staff yn ystod tymor yr Hydref cysylltwch nawr trwy e-bostio cyswllt@adamynyrardd.cymru!