
Bob blwyddyn fydda i’n hoffi arbrofi gyda mathau newydd o gnydau yn yr ardd
Yn ddiweddar cefais y planhigion garlleg hyn gan gymdogion caredig. Garlleg o Latfia ydynt sydd wedi’u tyfu mlaen mewn treis modiwl. Yn ôl pob tebyg mae’r ewin tipyn yn fwy na’n garlleg arferol ac yn dod â’r blas garlleg fwyaf cyfoethog
Bydda i’n eu plannu mewn rhes rhwng y bresych savoy i wneud y mwyaf o’r lle tyfu sydd gyda ni yn yr ardd! Rwy’ ffilu aros i botshan yn yr ardd dros y penwythnos