FY LLYFR GARDDIO I BLANT CYNTAF
“Mae llawer o greaduriaid yn byw yn yr ardd. Mae pob un yn bwysig i deulu byd natur. Mae Dewi Draenog a Beca Broga yn byw’n hapus yn yr ardd. Mae Dewi Draenog yn arddwr gwych ac mae e wrth ei fodd yn tyfu blodau, llysiau a ffrwythau. Mae Beca Broga eisiau bod yn arddwr gwych hefyd. Wyt ti? Dere i arddio”
Mae’r llyfr yn rhannu gwybodaeth am sut i fynd ati i dyfu hadau, blodau, ffrwythau a llysiau yn ogystal â garddio mewn modd sy’n gofalu am fyd natur.
Mae Dewi Draenog yn hen law yn yr ardd ond mae Beca Broga yn ysu i ddysgu mwy
Diolch o galon i’r Lolfa am bob cefnogaeth ac am roi cyfle arbennig imi wireddu breuddwyd o gael ysgrifennu a chyhoeddi cynnwys garddio yn Gymraeg.
Mae modd prynu copïau yn eich siopau Cymraeg lleol neu yn uniongyrchol wrthym ni trwy anfon e-bost at cyswllt@adamynyrardd.cymru neu ymweld â’n siop Etsy.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y llyfr neu hoffech drafod ymweliad ysgol / gweithdy garddio gyda grŵp cymunedol, cysylltwch â ni! cyswllt@adamynyrardd.cymru.