Rwy’n brofiadol wrth siarad yn gyhoeddus ac o flaen camera ar deledu byw ac wrth recordio rhaglenni. Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio ar brosiect ffilmio ym maes garddio, amgylchedd, byd natur neu Cymru a’r Gymraeg, mae croeso ichi gysylltu i drafod ymhellach.
Rwyf hefyd yn cynnig gwasanaeth o greu fideos garddio Cymraeg neu ddwyieithog sydd wedi gael ei deilwra i ofynion cleientiaid / mudiadau. Mae gennyf brofiad o sgriptio, ffilmio a golygu fideos garddio. Gweler isod enghreifftiau o’r comisiynau rwyf wedi gweithio arnynt yn ddiweddar.
