Cynigiwn ystod amrywiol o hyfforddiant garddio gan gynnwys sesiynau mentora un-i-un/mewn grwp a chynnal cyflwyniadau ar-lein.

Mentora Garddio un-i-un
Rhaglen fentora un-i-un i arddwyr newydd lle y byddaf yn ymweld â’ch gardd dros gyfnod o ddyddiadau wedi cytuno o flaen llaw i’ch cefnogi wrth gychwyn arni a chynnig arweiniad ymarferol.

Sesiynau Garddio Grŵp i fusnesau a mudiadau
Rwy’n cynnig sesiynau garddio grŵp i staff busnesau a mudiadau lle gallaf ymweld â’ch swyddfeydd ac chynnal sesiwn garddio ymarferol wedi’i deilwra yn unol â’ch gofynion chi. Fel rhan o’r sesiynau gallaf roi cyflwyniad syml i arddio yn ogystal â thrafod pwysigrwydd garddio i’n hiechyd a’n lles meddyliol.
Cyflwyniadau ar-lein neu wyneb yn wyneb
Cynigaf gyflwyniadau garddio ar-lein neu wyneb yn wyneb yn trafod amrywiaeth o bynciau garddio penodol fel a amlinellir isod (engrheifftiau a geir fan hyn, fe ellir teilwra’r sesiynau yn unol â’ch gofynion chi).