Cynigiwn ystod amrywiol o sesiynau a gweithdai garddio i ysgolion a chanolfannau addysg gan gynnwys sesiynau garddio fesul grŵp i ddisgyblion, hyfforddiant i athrawon a staff, a gwasanaeth cynllunio a datblygu gerddi o’r newydd.
Mae gan Adam dros 10 mlynedd o brofiad ym maes addysg yn rhinwedd ei swyddi blaenorol ac mae’n arwain rhaglen o ymweliadau ysgolion a cholegau bob blwyddyn. Gall Adam weithio gydag ystod oedran eang o oed meithrin i oedolion.
Mae Adam yn cynnig gweithgareddau Cymraeg a dwyieithog ac mae’n brofiadol wrth ddefnyddio garddio fel sylfaen i gynyddu defnydd disgyblion a dysgwyr o’r Gymraeg – boed mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg. Mae Adam hefyd yn siarad nifer o ieithoedd eraill gan gynnwys Almaeneg a Sbaeneg ac yn gwneud defnydd o’r ieithoedd hynny yn ystod ei sesiynau. Amlygir isod rhai o’r gwasanaethau addysg a gynigiwn:
Cynllunio a datblygu gerddi o’r newydd
Rydym yn cydweithio â staff a llywodraethwyr ysgolion i gynllunio gerddi o’r newydd gyda mewnbwn disgyblion. Gallwn gefnogi’r gwaith adeiladu a chreu’r ardd a’i deilwra yn unol ag amcanion dysgu’r cwricwlwm.
Mae sesiynau cynllunio fel arfer yn cynnwys ymweliad â phob cohort oedran oddi fewn i’r ysgol, sesiwn hyfforddiant mewn swydd i athrawon a chyfarfod â chymdeithas rieni/llywodraethwyr yr ysgol i gytuno ar gynllun gweithredu.
Hyfforddiant garddio i staff addysgu
Cynigiwn sesiynau garddio grŵp i staff yn ystod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, neu yn ddigidol wedi’r diwrnod addysgu. Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar sut i ddatblygu garddio yn rhan o’r cwricwlwm newydd yn ogystal â chyngor garddio ymarferol fel cynllunio plannu ac ôl-ofal.
Sesiynau a gweithdai garddio i ddisgyblion a dysgwyr
Cynigiwn weithdai garddio wyneb yn wyneb yn trafod amrywiaeth o bynciau garddio penodol fel a amlinellir isod (engrheifftiau a geir fan hyn, fe ellir teilwra’r sesiynau yn unol â’ch gofynion chi).
Cysylltwch i drefnu ymweliad heddiw!
Adnoddau Addysgu
Rydym wedi cydweithio â sawl prosiect i ddatblygu adnoddau addysgu garddio dwyieithog. Mae rhain yn cynnwys:
- Fideos Garddio Cymraeg i Blant, Cymru FM a Llywodraeth Cymru
- Adnoddau Gardd Newid Hinsawdd, Cyngor Sir Gâr
- Cyflwyniadau i dechnegau garddio, CYDAG
- Cynllunio Gardd Lysiau, Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach, Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Cyfres Tyfu’r Dyfodol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Calendr Garddio 2021/2022
- Dere i dyfu gyda Dewi Draenog a Beca Broga, Y Lolfa
Gallwn baratoi adnoddau ar unrhyw thema neu bwnc sy’n ymwneud â garddwriaeth, yr amgylchedd a’r Gymraeg.
Cysylltwch â ni heddiw os am drafod prosiect neu os hoffech brynu copi o’n llyfr garddio i blant 3 – 8 oed, Dere i dyfu.
Ein profiadau hyd yn hyn…
Dyma restr yn cynnwys rhai o’r prosiectau ac ysgolion rydym wedi cydweithio â nhw yn barod!