Gwerthfawrogi’r Bresych

Gawn ni funud o werthfawrogiad i blanhigion bresych (brassica) o bob math?

Oeddech chi’n gwybod bod pob planhigyn neu lysieuyn yn y llun hwn yn perthyn i’w gilydd?

Mae planhigion brassica yn rhoi mwy o gnydau amrywiol na’r un genws arall. Maent yn perthyn i deulu’r mwstard. Gallwch wneud gymaint â nhw o fwyta eu dail, stemiau, gwreiddiau a blodau.

Un nodwedd dda iawn am y rhan fwyaf o lysiau a ddaw o deulu’r bresych yw eu gallu i dyfu yn ystod y misoedd oeraf ac aros yn ffres yn barod i’w cynaeafu pan fydd eu hangen. Perffaith ar gyfer yr ardd lysiau Gymreig a byw bywyd hunangynhaliol.

Pa gnydau o deulu’r bresych ydych chi wedi tyfu yn yr ardd eleni?

Rwy’ wedi tyfu:

  • Bresych Gwyn
  • Brocoli
  • Bresych Coch
  • Swedsen
  • Bresych Savoy
  • Brocoli Piws
  • Bresych Gaeaf
  • Erfinnen
  • Bresych Gwanwyn
  • Rhuddygl
  • Cêl Nero
  • Kohlrabi
  • Cêl Rwsia
  • Ysgewyll
  • Blodfresych
  • Cêl Crwn
  • Bok choy
  • Calabrîs
  • Mwstard
  • Mizuna

Felly diolch yn fawr iawn i deulu’r bresych am lenwi’r ardd, cypyrddau’r gegin ac wrth gwrs, ein boliau bob blwyddyn!