Yn aml pan fyddwn ni’n mynd ati i newid rhywbeth yn yr ardd neu gynllunio rhan newydd, ry’n ni’n geidwadol iawn ac yn ofni newid pethau gormod rhag ofn inni greu llanast nad oes modd ei dacluso! Mae hyn yn gallu ein cyfyngu wrth beidio â datblygu’r ardd fel y dymunwn.
Arhosais i bron 5 mlynedd cyn codi hen lwybr concrit a wal yn yr ardd am yr union resymau hyn, roeddwn i ofn gwneud cawl potsh go iawn o bethau. Fel gwelwch chi yn y llun, ar un adeg roedd yr ardd yn debycach i’r Somme, y jac codi baw bach yn sownd yn y clai a dim tai gwydr, llwybrau na gwlâu llysiau yn unman.
Er gwaethaf y dinistr a’r cawl o glai a llacs ddaeth am ryw 3 mis wrth gychwyn y gwaith, heddiw mae ‘da fi gwlâu llysiau llawn bwyd, llwybrau sych, borderi blodau a gofod rwy’n hapus iawn gyda fe!
Felly ewch amdani, peidiwch fod ofn torri’r tir a rhacso’r lle i greu’r ardd ry’ch chi wirioneddol ei heisiau a’i hangen