Hau i fedi

Mae’n fis Medi ac mae’r cynhaeaf yn drwm 🥕🍅

Rwy’n teimlo’n bles dros ben gyda’r betys, bresych a’r tatws eleni! Mae’r ffa o’r diwedd yn dechrau rhoi cnydau swmpus ac mae’r tomatos a’r tsilis yn cochi wrth imi deipo! Blwyddyn ddigon heriol yw hi eto eleni gyda’r eithafion tywydd yn ein cadw ar flaene ein traed. Wedi dweud ‘ny, bois bach pan mae’r cnwd yn dod, mae’n dod â gymaint o fwynhad a sicrwydd hefyd am fwyd ffres a maethlon i’n para yn ystod y misoedd nesaf 😀

Job piclo, rhewi a storio’r cyfan nawr 🙈

Ac yno o hyd rhydd sofl hen gnydau eginyn ifanc egni hen hafau,

Cynhaeaf cynaeafau – sydd yno,

Yn aros cyffro y gwres i’w goffrau.

(Y Cynhaeaf gan Dic Jones)