Hercules y foronen

Dyma Hercules y foronen!

Mae’n amlwg bod y foronen hon wedi bod yn canolbwyntio ar dyfu cyhyrau yn lle coesau!

Oes gennych chi lysiau o’r ardd sy’n dod mewn pob siâpau wahanol? Yn aml byddwn ni ddim yn gweld y math hwn o lysiau ar werth mewn archfarchnad ond mae nhw’n berffaith iawn i’w bwyta! Pwy feddyliai y byddwn yn hapus i wastraffu bwyd da o achos eu edrychiad anarferol?

Y rheswm mae Hercules wedi tyfu mewn siap fforchog fel hyn yw gan fod y pridd yn rhy faethlon a hynny yn annog y gwreiddiau i dyfu allan yn hytrach na syth i lawr i chwilio am faeth.

I annog moron i dyfu’n hir a syth, rhowch ychydig o dywod neu ludw yn y pridd a pheidiwch roi gymaint o wrtaith organig.