
Ydy mae’r hoci coci garddio blynyddol wedi cychwyn ar ei anterth. Bob blwyddyn bydda i’n pwyso a mesur beth i blannu mas i’r ardd i greu lle ar gyfer mwy o blanhigion a thrawsblaniadau yn y tŷ gwydr Miwn a mas, Miwn a mas go iawn!
Ddoe fe es ati i blannu ffa, blodau haul, sialots, letys, sbigoglys, pys pêr, mashua a melyn mair yn syth i’r ardd a chreu tipyn mwy o le unwaith eto i dyfu hyd yn oed mwy o gnydau blasus a blodau hefyd Roeddwn wedi amseru hynny hefyd o achos y rhagolygon am law dros nos er mwyn arbed tipyn o amser yn dyfrio
Mae prysurdeb garw yn yr ardd ar hyn o bryd yn gwasgu pob eiliad i hau a thrawsblannu ond mae egni’r holl dyfiant yn heintus