Mae bron yn fis Awst, 2021! I le mae’r amser yn mynd gwedwch? Mae wedi bod yn haf ddigon caredig i’r garddwr wedi’r gwanwyn anoddaf rwy’n cofio. Mae’n rhyfedd sut y bydd byd natur yn dod o hyd i’r balans bob tro! Mae digonedd o bethau i wneud yn yr ardd o hyd a dyma rai o’r pethau fydda i’n gwneud yn ystod y dyddiau nesaf:
Dyfrio’r tomatos yn gyson i osgoi’r risg bod y ffrwythau’n hollti neu’n pydru wrth y blodyn.
Claddu rhedwyr y mefus dan bridd i greu planhigion newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Torri’r Wermod Wen a blodau lluosflwydd yn ôl er mwyn manteisio ar flodau newydd yn ystod mis Medi a Hydref (paill a neithdar pwysig i’r gwenyn cyn y gaeaf).
Torri’r ffa yn ôl a chynaeafu’r rhiwbob am y tro olaf eleni ac yna ei fwydo trwy osod haenen dda o gompost am y coronnau i gyd!
Joiwch y garddio!