Mae’n hen bryd imi gynaeafu’r letys yma ond mae’r tywydd cynnes yn fy atal rhag wneud ar hyn o bryd…
O adael y dail yno byddan nhw’n gorchuddio’r pridd ac yn atal yr haul rhag cyrraedd a sychu’r tir Mae gan saladau wreiddiau gweddol bas ac felly mae nhw’n dioddef o’r sychder yn gynt na chnydau fel y tatws a’r pannas sydd â gwreiddiau dwfn sy’n cyrraedd y gwlybaniaeth yn y tir!
Pan rwy’n barod i gynaeafu, rwy’n tynnu’r dail allanol yn unig ac nid y planhigyn cyfan er mwyn sicrhau cyflenwad cyson o gnydau yn ystod yr haf.
Mae coch y milwr (y blodyn pinc i’r cornel chwith) newydd flodeuo ac yn denu pryfed peillio o bob math