Letys ‘Winter Gem’

Letys ‘Winter Gem’ i lenwi’r bylchau ar ôl codi’r corbwmpenni 🥬

Rwy’n gobeithio cynaeafu dail y letys hwn tamaid bach a phob yn dipyn yn ystod y misoedd nesaf 😃 Mae gymaint o wres ym mhridd yr Hydref ar ôl haf crasboeth a hydref anarferol o fwyn eleni. Mae hyn i gyd yn golygu bod planhigion yn dal i dyfu er gwaethaf y diffyg golau 🌱

Beth ydych chi’n tyfu yn yr ardd yn ystod y gaeaf?