Mafon

Dyma oedd y cynhaeaf olaf o fafon yn 2020. Roedd gennym lwyth o fafon yn yr oergell ac wedi rhewi yn y rhewgell fel ein bod yn gallu eu mwynhau yn ystod y misoedd nesaf gyda brecwast, mewn cacennau a gyda diodydd.

Fe oedd yn dymor da dros ben i bob math o ffrwythau meddal. Ar ol y cynhaeaf olaf o’r mafon, byddaf yn gadael y planhigion hyn am ryw wythnos fach arall ac wedyn yn eu tocio reit lawr i’r ddaear.

Mae 2 fath o fafon i’w cael rhai haf a rhai hydref ac mae rheolau gwahanol o ran gofalu amdanynt.

I mi, mae tyfu mafon hydref yn dod a chymaint o fanteision i gymharu a mafon haf, e.e:

1) Mae nhw’n haws i ofalu amdanynt.

Dydych chi prin iawn yn wynebu problemau gyda chynrhon mafon yn wahanol i blanhigion yr haf. Mae nhw hefyd yn haws i’w tocio. Mae mafon haf yn bwrw ffrwythau ar frigau dyflwydd oed neu ‘Floricane’ sy’n golygu bod angen bod yn ofalus wrth eu tocio i wneud yn siŵr nad ydych chi’n tocio’r brigau anghywir.

Mae mafon hydref fodd bynnag yn bwrw ffrwythau ar frigau newydd unflwydd oed neu ‘primocanes’. Felly does dim modd eu tocio’n anghywir jyst eu torri’n syth nôl lawr i’r ddaear bob mis Tachwedd.

2) Gwell gnwd o ffrwythau

O’m mhrofiad i, mae ffrwythau mafon hydref yn tyfu’n fwy ac yn blasu’n well.

Maent yn aeddfedu tua ddiwedd yr haf ac yn parhau i roi ffrwythau nes y rhew cyntaf. O leiaf 8 wythnos o ffrwythau ffres. Mae hyn yn wahanol i fafon haf sydd yn dod â llwyth o ffrwythau bach tua’r un adeg ym mis Gorffennaf a hynny yr un pryd â’r mefus a’r cyrens duon – sy’n golygu gormod o ffrwythau ffres i’w bwyta a chynaeafu ar adeg brysur yn yr ardd.

Yn amlwg os ydych chi’n ffan enfawr o fafon fel finnau, gallwch chi dyfu y 2 fath ohonynt.