Mashua

Mashua 🌱 (Tropaeolum tuberosum)

Mae Mashua yn tyfu yn debyg iawn i’r Miri Mari ac yn perthyn i’r un teulu ond yn wahanol i’r Miri Mari mae’n ffurfio tiwberau bwytadwy o dan wyneb y pridd. Daw yn wreiddiol o fynyddoedd yr Andes yn Ne America lle y tyfai ochr yn ochr â thiwberau eraill fel yr Oca a’r Ulluco.

Dyma’r flwyddyn gyntaf inni eu tyfu ar ôl derbyn tiwberau gan gymdogion hael ac mae nhw wedi tyfu’n wyllt dros y fframiau hyn i gyd 🤣 Cofiwch, mae’n bleser ei weld ar hyn o bryd wedi tyfu yn wal gwyrdd ac oren lliwgar ar adeg pan mae popeth arall yn marw nôl. Mae modd bwyta pob rhan o’r planhigion y dail, blodau a’r tiwberau ac o gadw peth tiwberau yn ôl, gallwn eu plannu unwaith eto flwyddyn nesaf 😀👌

Dy’n nhw ddim yn gallu ymdopi â rhew caled ond gyda thywydd mwyn hydref eleni mae nhw’n tyfu’n arbennig o dda. Mae nhw’n rhan o’r master plan o fod yn lled hunangynhaliol gan eu bod yn barod i’w cynaeafu yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr ac yn eilydd da iawn i’r tato, ac felly yn rhoi mwy o ddewis bwyd i ni yn ystod y gaeaf 😊

Ydych chi’n tyfu cnydau anarferol yn yr ardd?