Mae ein mêl cyntaf erioed yn awr ar gael i’w brynu ar y we ☺️
Ar ôl sawl blwyddyn o lafur cariad go iawn rydym bellach yn gallu blasu a rhannu ein mêl Cymreig ☺️
Rydym yn cadw’r gwenyn yn yr ardd fan hyn ac mewn gwenynfa yng nghyffiniau Caerfyrddin a blwyddyn nesa fyddwn ni’n agor gwenynfa arall yn ardal Cross Hands.
Blas y Blodau gan wenyn Cymreig wedi’u cadw gan fusnes bach teuluol yn Sir Gâr!
Os hoffech chi brynu jared ewch i’n siop etsy.
I osgoi talu costau postio, bydd modd casglu’r mêl o Gaerfyrddin neu Gors-las ar ôl trefnu o flaen llaw trwy anfon e-bost at cyswllt@adamynyrardd.cymru i brynu.