Milddail

Achillea millefolium Cassis – Milddail yn Gymraeg.

Dyma blanhigyn hyfryd i’w gynnwys ym mhob gardd! Planhigyn lluosflwydd sy’n eithriadol o wydn yn erbyn tywydd garw ac yn dod ym mhob lliw erbyn hyn, ond yr un pinc poeth yma yw fy ffefryn i 😍

Bydd hwn yn ei flodau nes mis Hydref ac yn denu llond yr ardd o bryfed peillio 🐝🦋