Miri Mari

Mae Miri Mari neu Nasturtium yn dwyn atgofion o’m mhlentyndod! Roeddent wastad yn tyfu yng ngardd Tad-cu a Mam-gu, mae nhw yn un o fy hoff flodau yn yr ardd.

Dylai pob gardd lysiau fod â Nasturtium yn tyfu ynddi. Nid yn unig eu bod nhw’n brydferth ac yn cynnig gwledd o liwiau i’r ardd, mae nhw hefyd yn ffrind i’n helpu yn erbyn affidau a lindys ‘gwyn y bresych’.

Bydda i wastad yn eu plannu o gwmpas pob math o blanhigion bresych fel blodfresych, pak choi, brocoli, bresych coch a gwyn. Mae nhw’n llwyddo i dwyllo’r pilipalod i ddodwy eu hwyau ar ddail y Nasturtium yn lle dail y bresych. Bydd hwn yn helpu yn erbyn difrod lindys yn bwyta dail y bresych sef y broblem fwyaf gyffredin o ran eu tyfu o’m mhrofiad i.

Mae nhw hefyd yn fwytadwy! Gallwch chi fwyta eu blodau mewn salad gan ychwanegu blas ffres a siarp, tamed bach fel pupur.

Cofiwch unwaith eu bod nhw gyda chi, mae nhw gyda chi am byth – Mae nhw’n feistri ar hunan-hau!

Casglu’r hadau

Yn ogystal a bwyta eu dail a’u blodau mewn saladau neu eu blannu wrth ochr planhigion yn nheulu’r bresych i’w diogelu yn erbyn lindys, oeddech chi’n gwybod bod modd bwyta eu hadau mewn ryseitiau fel eilydd da i Capers? Mae rhai yn dweud bod y blas hyd yn oed yn well!

Dyna i gyd sydd angen gwneud ydy casglu’r hadau eu golchi’n dda ac yna eu gosod mewn jar gyda finegr piclo (finegr, halen, siwgr a sbeisys fel llysiau’r gwewyr) ac yna eu cadw i’w bwyta fel y mynnoch!

Mae nhw’n hyfryd mewn saladau i ychwanegu blas pupur a chrensh ac yn dda mewn ryseitiau pasta. Cofiwch gadw peth hadau i’w sychu yn barod i’w hau flwyddyn nesaf!