Neges drist

Mae cadw ffowls a hwyaid wedi bod yn rhan ganolog o’r ardd fan hyn ers inni symud yma. Ar un adeg roeddwn yn cadw dros 50 o ieir, 60 cwêl a 12 hwyaden… tipyn o Zoo yma a gweud y gwir! Roedd yr hwyaid, ein cwac pac ffyddlon yn fyddin diwyro yn erbyn malwod a’r ffowls a’r ceiliogod yn cael gwared ar bob gwastraff gardd a’i droi yn gompost perffaith 😁 Roeddwn i’n n bridio cywion ac yn cael pleser yn gweld y rhai bach yn tyfu ac yn cychwyn ar siwrnai gyffrous yn twrio o boitu’r lle 🐓🐤 Ond mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd gyda ffliw’r adar a chost cynyddol bwyd a gwellt ein bod wedi stopio prynu a bridio adar newydd.

Mae eleni wedi bod yn nodedig o heriol ac ry’n ni wedi colli sawl hwyaden a ffowlyn i rywbeth yn ymosod arnynt yn y dydd a gyda’r nos 😔 Heddiw, fe gollon ni 6 ffowlyn ac un ceiliog i ryw greadur yn nheulu’r carlymoliaid e.e Wenci, Carlwm, Ffwlbart, Bele’r coed neu ddwrgi 😢 Bellach dim ond 3 hwyaden, dwy giâr ac un cyw ceiliog sydd gyda ni ar ôl 😔

Mae cadw anifeiliaid yn dod â gymaint o fwynhad ond mae’n gallu bod yn anodd iawn hefyd! Bydd y berllan yn dawelach o lawer wedi heddiw!