Noson Calan Gaeaf Hapus

Noswyl Calan Gaeaf hapus i chi gyd 🎃

Yng Nghymru yn draddodiadol y 1af o Dachwedd oedd dydd Calan Gaeaf sef diwrnod cyntaf y gaeaf a dydd olaf y flwyddyn Geltaidd!Byddai pobl yn arfer cynnau coelcerthi ledled y wlad i ddiolch i’r duwiau a chodi ofan ar ysbrydion fel y ladi wen 👻

Mae Gŵyl Calan Gaeaf yn ŵyl Geltaidd bwysig dros ben! Dyma fel byddech chi’n dweud ‘Gŵyl Calan Gaeaf’ yn yr ieithoedd Celtaidd eraill:

Cymraeg: Nos Calan Gaeaf 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Kernowek: Nos Kalan Gwaf

Brezhoneg: Kalan Goañv

Gaeilge: Oíche Shamhna 🇮🇪

Gàdhlig: Oidhche Shamhna 🏴󠁧󠁢󠁳󠁣󠁴󠁿

Gaelg: Oie Houney 🇮🇲

Mae’r cynhaeaf pwmpenni wedi bod yn dda eleni felly byddwn ni’n mynd ati i gerfio rhain a’u bwyta yn ystod y dyddiau nesaf…Cwestiwn pwysig oes gan rywun rysáit blasus ar gyfer pwmpenni? (Rhaid cyfaddef ‘wy ddim yn o’r hoff o flas y bwmpen ond mae gymaint o gas’ da fi i wastraffu bwyd 🤣)