Mae’r batsh cyntaf o hadau cinabêns wedi’u hau!
Mae nhw’n tyfu ar garlam a dyna pham dydyn ni ddim yn eu hau cyn mis Mai neu fyddan nhw wedi tyfu yn barod i’w plannu yn y tir ymhell cyn i’r perygl o rew ein gadael. Croesi bysedd nad ydw i dal yn rhy gynnar eleni gan gofio’r tywydd oer nodedig sydd wedi bod yn ddiweddar!
Hadau gefais gan dad-cu Pontyberem (Tad-cu fy ngwraig) ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’w gweld yn tyfu eleni!
Rwy’n sentimental iawn pan ddaw i gadw a phlannu hadau planhigion rwyf wedi eu cael gan ffrindiau a theulu annwyl. Rwy’n teimlo bod hyn hefyd yn gallu cynnal cyswllt cryf gydag atgofion o’r rhai sydd erbyn hyn wedi ein gadael – mae’r cyswllt hwn yn bwysig iawn i mi ac yn gwneud i mi deimlo mor freintiedig a ddiolchgar am gael ddefnyddio’r hadau yn fy ngardd i.
Ydych chi’n tyfu planhigion yn yr ardd sy’n meddwl rhywbeth i chi?