O’r tŷ gwydr i’r ardd

Diwrnod llawn plannu’r planhigion bresych, tsiard, sbigoglys mas i’r ardd heddiw er mwyn creu lle i fwy o eginblanhigion yn y tŷ gwydr.

Mae llwyth o eginblanhigion seleriac, brenhinllys, kohlrabi, cêl piws a brocoli gwyn sydd angen eu trawsblannu a photio ymlaen yn barod i gymryd eu lle ar y silffoedd hyn.

Mae mis Mai yn fis y jyglo go iawn!

Mae fel hoci coci garddio ar hyn o bryd gyda rhai planhigion mewn a rhai yn mynd mas a phwyso a mesur y tywydd cyn gwneud.

Felly rwy’ wedi penderfynu gan fod glaw ar y ffordd ac o leiaf dwy noson heb rew ei fod yn gyfle perffaith i blannu tipyn mas yn eu cartref newydd yn yr ardd!